Psalms 127

Canmol daioni Duw

Cân yr orymdaith. Salm Solomon.

1Os ydy'r Arglwydd ddim yn adeiladu'r tŷ,
mae'r adeiladwyr yn gweithio'n galed i ddim pwrpas.
Os ydy'r Arglwydd ddim yn amddiffyn dinas,
mae'r gwyliwr yn cadw'n effro i ddim byd.
2Does dim pwynt codi'n fore
nac aros ar eich traed yn hwyr
i weithio'n galed er mwyn cael bwyd i'w fwyta.
Ie, Duw sy'n darparu ar gyfer y rhai mae'n eu caru,
a hynny tra maen nhw'n cysgu.
3Ac ie, yr Arglwydd sy'n rhoi meibion i bobl;
gwobr ganddo fe ydy ffrwyth y groth.
4Mae meibion sy'n cael eu geni i ddyn pan mae'n ifanc
fel saethau yn llaw'r milwr.
5Mae'r dyn sy'n llenwi ei gawell gyda nhw
wedi ei fendithio'n fawr!
Fydd e ddim yn cael ei gywilyddio
wrth ddadlau gyda'i elynion wrth giât y ddinas.
Copyright information for CYM